Gwybodaeth


Cartref > Ysgol > Gwybodaeth

Gwybodaeth

Mae Ysgol Hafod Lon yn ysgol ar gyfer dysgwyr o 3-19 mlwydd oed gydag ystod eang o anghenion dysgu ychwanegol. Rydym wedi ein lleoli ym Minffordd, Meirionnydd lle rydym yn hynod o lwcus i allu manteisio ar yr ardal leol arbennig sydd o'n cwmpas i roi profiadau dysgu unigryw a chyffrous i'n dysgwyr. Mae ein hysgol yn bwrpasol, gydag aelodau staff sydd wedi'u hyfforddi'n arbennig i ddarparu amgylchedd gadarnhaol, gefnogol i ddiwallu anghenion cymdeithasol, emosiynol, addysgol a chorfforol ein holl ddisgyblion.

Yn Ysgol Hafod Lon ein nod yw hyrwyddo amgylchedd ddysgu gynhwysol, uchelgeisiol a chreadigol lle gall plant ddysgu a ffynnu, a ddatblygu i fod yn gyfathrebwyr annibynnol parchus.  Credwn ym mhotensial ein holl ddysgwyr ac mae gennym ddisgwyliadau uchel o bawb sy'n rhan o gymuned ein hysgol.

Mae ein hysgol yn gymuned ynddi'i hun, yn ogystal â bod yn rhan o gymuned leol ehangach Dwyfor a Meirionnydd. Mae rhieni a gofalwyr yn rhan hanfodol o'r gymuned honno ac rydym yn ymfalchïo mewn meithrin perthynas agos â theuluoedd i gefnogi ein disgyblion gartref yn ogystal ag yn yr ysgol. Rydym hefyd yn anelu at greu amgylchedd gynnes a chroesawgar i blant a staff, rhieni, gweithwyr proffesiynol ac ymwelwyr sy'n ymweld ag Ysgol Hafod Lon.

Rwy'n gobeithio bod ein hethos gadarnhaol, cynnes a llawen yn amlwg, a'ch bod yn gweld ein gwefan yn ddefnyddiol wrth ddarganfod gwybodaeth y gallech fod yn chwilio amdani am ein hysgol.

Rydym yn gobeithio y byddwch yn dod o hyd i'r wefan yn llawn gwybodaeth ac y byddwch yn dod o hyd i bopeth sydd ei angen arnoch. Os oes gennych unrhyw gwestiynau / ymholiadau, peidiwch ag oedi i gysylltu â ni.