Madog


Cartref > Dosbarthiadau > Madog

Croeso i ddosbarth Madog, dyma’r dosbarth i ddisgyblion ieuengaf yr ysgol. Mae’r disgyblion yma yn 3-5 mlwydd oed, blynyddoedd meithrin a derbyn.

Mae dosbarth Madog yn le llawn hwyl gan bod mwyafrif y dysgu yn digwydd trwy chwarae a phrofiadau synhwyrol, gan ddilyn arweiniad a diddordebau’r disgyblion. Rydym yn canolbwyntio fwyaf ar hybu sgiliau cyfathrebu, annibyniaeth a chymdeithasol.

Rydym yn dilyn y cwricwlwm llwybr sylfaen, routes ac ABLLS, ynghyd a rhestrau gwirio sgiliau cyfathrebu, switch a thechnoleg, nofio a therapi adlam. Mae gan bob disgybl yn y dosbarth dargedau wedi eu teilwrio yn arbennig iddyn nhw, rydym yn newid yn targedau yn wythnosol wrth i’r disgyblion lwyddo i’w meistroli.

Mae Yvonne Moseley, athrawes y dosbarth yn falch iawn o gael gweithio gyda thîm profiadol, gweithgar a gwych: Sian Williams, Esyllt Williams, Eleri Tester, Sharon Elias a Ruth Selman.