Dwyfor


Cartref > Dosbarthiadau > Dwyfor

Croeso i ddosbarth Dwyfor. Dyma ddosbarth o 7 o ddysgwyr 11-16 oed direudus, hwyliog a brwdfrydig sy’n mwynhau darganfod, archwilio ac arbrofi! 

Rydym ni yn dilyn y llwybr dysgu arbrofi yn y dosbarth hwn, golygai hynny ein bod yn ffocysu ar sgiliau craidd y dysgwyr; cyfathrebu, Annibynniaeth a Chreadigrwydd. Byddwn yn dysgu drwy weithegareddau gweledol a sensori. 

Prif ffocws y dosbarth hwn yw annog a darparu cyfloedd i’r dysgwyr gyfathrebu yn annibynnol yn y dosbarth, ar gymuned tu hwnt. Mae meithrin a datblygu annibyniaeth a sgiliau byw yn bwysig iawn i ni, ac byddwn yn sicrhau cyfloedd i gymhwyso’r sgiliau’n ddyddiol yn ein dosbarth, er mwyn paratoi’r dysgwyr i fywyd tu hwnt i’r ysgol. 

Mae dysgwyr Dwyfor wrth eu boddau gyda sesiynnau sensori sy’n targedu’r 5 synwyr. Rydym yn mwynhau sesiynnau sensoleg a therapy bwced gan ddilyn themau gwahanol yn wythnosol. Rydym yn mwynhau sesiwn stori dda, gan ddeillio gweithgareddau man i gyd fynd ar themau. 

Mae chwarae hefyd yn ran bwysig iawn or dysgu. Bydd ein dysgwyr yn dysgu drwy chwarae, yn unigol, ac drwy rannu gofod chwarae gyda cyd-ddysgwr. 

Mae seisynnau yn yr ystafelloedd sensori yn holl bwysig i’n dysgwyr ni. Mae’r ystafelloedd hyn nid yn unig yn rhoi cyfleoedd i’r dysgwyr ymlacio, ond hefyd yn cefnogi datblygiad synhwyraidd ac ymwybyddiaeth achos ac effaith. Mae cyfleoedd yn wythnosol  i’r dysgwyr dderbyn sesiynnau therapi Adlam, Therapy Hydro a cylched sensori hefyd. 

Ein bwriad yn y dosbarth hwn yw meithrin proiadau gwerthfawr, mwynhad yn y dysgu bob dydd ac atgofion i’w trysori.