Cwmorthin
Cartref > Dosbarthiadau > Cwmorthin
Croeso cynnes i ddosbarth Cwmorthin.
Rydym yn ddosbarth o ddysgwyr rhwng 11 ac 16 mlwydd oed ac yn dilyn cwricwlwm llwybr arbrofi gan gyffwrdd ar elfennau o’r cwricwlwm llwybr ymchwilio. Yma yn nosbarth Cwmorthin y nod yw creu awyrgylch dysgu hapus a saff sy’n annog y dysgwyr fod yn annibynnol ac yn chwilfrydig. Mae datblygu sgiliau cyfathrebu yn bwysig iawn yn ein dosbarth er mwyn cefnogi’r dysgwyr i ddatblygu i fod yn gyfathrebwyr hyderus ac annibynnol yn y dyfodol. Rydym yn cael amrywiaeth o gyfleoedd dysgu yn y dosbarth gan gynnwys sesiynau targedau dyddiol, sesiwn yn y pwll hydro, sesiynau therapi adlam, ysgol goedwig yn ogystal â defnydd o’r amryw ystafelloedd synhwyrol yn yr ysgol. Rydym hefyd yn lwcus iawn i gael mwynhau sesiynau sŵn a symud a chelf gan yr athro celfyddydau yn yr ysgol. Rhai o’n hoff weithgareddau i fwynhau fel dosbarth yw stori synhwyrol, therapi bwced a sensoleg. Yn nosbarth Cwmorthin rydym yn mwynhau gorffen ein wythnos gyda sesiwn caffi dosbarth bob dydd Gwener ble cei'r dysgwyr gyfle i baratoi byrbryd eu hunain a mwynhau amser gyda'i cyfoedion.