Y Cob


Cartref > Dosbarthiadau > Y Cob

Croeso i ddosbarth Y Cob. Yn ein dosbarth ni rydym yn dilyn y llwybr arbrofi ble rydym yn canolbwyntio ar sgiliau ymyrraeth gynnar gan hefyd sicrhau ein bod yn rhoi cymaint o brofiadau gwerthfawr i’n disgyblion a phosib. Mae staff y dosbarth yn awyddus iawn i greu perthynas  ac awyrgylch bositif. Rydym yn rhoi pwyslais mawr ar ddod i nabod ein disgyblion; eu personoliaeth, hoff bethau a phopeth sydd yn ei gwneud yn unigryw ac yn arbennig yn ffordd hwy ei hunain. Mae hybu sgiliau cyfathrebu yn wraidd ac yn cael ei bwysleisio yn bopeth rydym yn ei wneud. Mae sicrhau bod y disgyblion yn dysgu drwy hwyl a bod yn hapus yn flaenoriaeth cryf ganddom. Rydym yn cynnig llawer iawn o wersi sydd yn archwilio'r synhwyrau ac yn cynnwys llawer iawn o gyfleoedd  ymarferol iddynt ymarfer ei sgiliau. Rydym yn rhoi sylw arbennig i ddatblygu sgiliau unigol pwrpasol i’n dysgwyr ar sail 1:1 gan adeiladu arnynt yn gyson ac yn raddol fel bod hyn yn rhoi cyfle iddynt gyffredinoli eu sgiliau cyn eu cymhwyso mewn amrywiaeth o brofiadau, tu mewn, tu allan, yn y gymuned a thu hwnt.