Gwybodaeth

Mae Ysgol Hafod Lon yn ysgol sydd yn uchel ei pharch yn ein cymuned a thu hwynt. Mae hyn yn ganlyniad i waith caled ac ymroddiad holl staff yr ysgol, arweiniad ac anogaeth y corff llywodraethu ac yn bennaf oll cefnogaeth ac anogaeth y rhieni

Os ydych yn ystyried lleoliad i’ch plentyn yn yr ysgol mae’n bwysig cael gwybod cymaint ag y gallwch am yr ysgol, a dechrau da yw edrych ar brosbectws yr ysgol. Fodd bynnag, gall ymweliad â'r ysgol roi dealltwriaeth gwell o ethos, nodau a’r cwricwlwm a gynigir. Yr ydym yn fwy na hapus i chi ddod i'r ysgol i ymweld â ni, naill ai ar eich pen eich hun neu gyda'ch mab / merch. Mae croeso i chi yn ogystal ddod yn ôl eto neu ffonio os oes gennych gwestiynau neu bryderon.

Mae llawer o ymwelwyr yn adrodd ar y croeso a dderbyniant yn Ysgol Hafod Lon, y, myfyrwyr cwrtais a chyfeillgar a’r awyrgylch braf, cartrefol a chynhyrchiol o fewn yr ysgol
Rydym yn ymfalchïo mewn bod yn gymuned dysgu fywiog a hapus lle mae pawb yn cael ei werthfawrogi fel unigolyn a'u trin gyda pharch. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu profiadau addysgol perthnasol o ansawdd uchel ar gyfer ein holl fyfyrwyr.