Archif Newyddion

 

 


Y Blynyddoedd Rhyfeddol 07/09/18
Y Blynyddoedd Rhyfeddol 07/09/18
Sbectrwm Awtistiaeth ac Oediad Iaith. Cwrs i rieni plant sydd gyda ASD neu gydag oediad iaith sylweddol - cliciwch yma


mrs sellman
Wythnos RSPCA 04/05/18
Mae Dosbarth Y Lliwedd wedi bod yn gwneud gwahanol weithgareddau ar gyfer wythnos R.S.P.C.A. Ar ddiwedd yr wythnos aethom i siop Freshfields ym Mhorthmadog gyda nwyddau iddynt - cliciwch yma


mrs sellman
Ddosbarth Y Lliwedd yn gwneud Street Art gyda Mrs Sellman 14/03/18
Dyma Ddosbarth Y Lliwedd yn gwneud Street Art gyda Mrs Sellman - cliciwch yma


Panto Culhwch ac Olwen 2017
Culhwch ac Olwen 15/12/17
Y disgyblion cynradd yn mwynhau gwylio panto Culhwch ac Olwen - cliciwch yma


Cinio Nadolig 2017
Cinio Nadolig 14/12/17
Y disgyblion yn mwynhau eu cinio nadolig! - cliciwch yma


plant
Tren Bach Llanberis 06/12/17
Disgyblion dosbarth Madog yn mwynhau eu hunain ar y tren bach yn Llanberis, 06.12.17. - cliciwch yma


plant
Gweithgareddau Gwrth Fwlio Dosbarth Cnicht 15/11/17
Bu dosbarth Cnicht yn trafod y gwahanol fathau o fwlio, a'r effaith y mae'n ei gael ar bobl. Wrth ddefnyddio'r afalau, bu'r disgyblion â'r staff yn dweud geiriau caredig wrth un afal a geiriau creulon wrth yr afal arall a'i daflu a'i daro o gwmpas, gallwn weld o du fewn yr afalau yr effaith mae bwlio yn ei gael er fod tu allan y ddau yn edrych yr un peth. - cliciwch yma


plant
Glasfryn 13/07/17
Disgyblion dosbarth Madog yn mwynhau ei hunain ar eu trip i Glasfryn. - cliciwch yma


plant
Trip Dosbarth Y Lliwedd 13/07/17
Dyma ddosbarth Y Lliwedd yn mwynhau ar y trip, fuon ni ar y tren bach o Borthmadog i Tan y Bwlch, cael picnic a mynd am dro wrth afon Llyn Mair. Fyny a ni wedyn i Llechwedd i fynd o amgylch y chwareli yn y lori the Quarry Explorer. Diwadd pnawn aethom i Cell B i wylio y ffilm "Sing". Lawr i Llanffestiniog wedyn i westy moethus Seren i aros noson, cawsom groeso gan bawb. Pawb wedi cysgu drwy'r nos a cael llond bol o frecwast cyn cael gweithdy celf. - cliciwch yma


plant
Diwrnod Agored Beicio Hygyrch 06/06/17
I weld mwy o wybodaeth - cliciwch yma



plant
Lions of Zulu Land 11/05/17
Daeth Lions of Zulu Land ir ysgol heddiw yr holl ffordd o De Affrica.Cawsom lawer o hwyl mewn gwahanol weithdai drwy'r dydd. - cliciwch yma


plant
Strydoedd Aberstalwm 04/05/17
Cafodd dosbarth Lliwedd wrando ar gan Aberstalwm bore ma, Alun Sbardun Huws ysgrifennodd y gan.Can am Benrhyndeudraeth.Aethom am dro o amgylch Penrhyn I chwilio am lefydd a enwi'r yn y gan - cliciwch yma


plant
Dewiswch eich Dyfodol Hafod Lon 06/03/17
Dydd Iau 9fed o Fawrth yn Ysgol Hafod Lon - cliciwch yma


plant
Bowlio Deg 26/01/17
Pawb wedi mwynhau cystadlu yn y Bowlio Deg yn Mhrestatyn.Dod yn nol i'r ysgol efo'r wobr gyntaf. Da iawn pawb!!!
cliciwch yma i weld mwy o luniau


Dyma fidio o'r cyfleusterau arbennig sydd ganddom yn yr ysgol newydd
Cliciwch yma i weld yr fideo


plant
Dim llawer i aros erbyn hyn 23/09/16
Dim llawer i aros erbyn hyn - dyma luniau o'r Uwch Dim Rheoli yn ymweld â'r ysgol i edrych ar y datblygiadau. - cliciwch yma


plant
Dathlu Penblwydd Roald Dahl yn 100! 13/09/16
Dyma ddisgyblion yr Ysgol yn dathlu penblwydd Roald Dahl yn 100 oed drwy wisgo gwisg ffansi fel cymeriad o un o storiau Roald Dahl, neu drwy ddod a'u hoff stori gan Roald Dahl i'r ysgol. Bu'r disgyblion yn gwylio ffilm yn y prynhawn, roedd tri dewis - Matilda, James and the Giant Peach neu Willy Wonka and the Chocolate Factory. Cafwyd diwrnod o hwyl i ddathlu gwaith arbennig Roald Dahl. - cliciwch yma


plant
Parc Erias Bae Colwyn 06/07/16
Aeth disgyblion dosbarth Clogwyn a rhai o ddosbarth Dolwar i parc Erias ym Mae Colwyn i gymeryd mewn cystadleuaethau gwahanol. Cafodd pawb lwyddiant a cawsom ddiwrnod da iawn. - cliciwch yma


plant
Sw Bae Colwyn 01/7/2016
Themau tymor yma yw pethau byw. Penderfynodd y plant ei bod eisiau mabwysiadu anifeiliaiad or Sw, felly casglodd y plant £160 drwy gasglu sbwriel noddedig. Ar ol casglu'r arian penderfynwyd mabwysiadu Pengwin, arth frown, meerkat a chimp o Sw Fynydd Bae Colwyn. Cafwyd drip I weld yr anifeiliaiad hun a mwy. Mwynhaodd pawb y diwrnod yn fawr iawn. - cliciwch yma


plant
Ymweliad Dosbarth Dolwar a Chanolfan Addysg y Bont, 24/6/2016
Aeth dosbath Dolwar ar ymweliad i Ganolfan Addysg y Bont i gael sesiwn gerddorol ar y cyd gyda Gethin Tomos ac Athrofa Confucius Prifysgol Bangor. Cafodd y disgyblion gyfle i ddysgu am ddiwylliant Tsieina drwy ddawns a cherddoriaeth fyw yn ystod y sesiwn. - cliciwch yma


plant
Mabolgampau 21.06.16
Cawsom ddiwrnod mabolgampau ar Fehefin 21ain. Roedd pawb mewn timau coch, gwyn a gwyrdd a bu cystadlu brwd gan bawb. Roedd cystadleuthau taflu pêl, rhedeg, ras ffram/cadair olwyn, ras tim, ras wy ar lwy a ras gyda bag ffa ar eu pennau. Ar ddiwedd y diwrnod, ac wedi cyfrif yr holl bwyntiau daeth y tim coch i'r brig gyda capten y tim yn derbyn y darian. Llongyfarchiadau i bawb a fu'n cymryd rhan!! - cliciwch yma


plant
Ewro 2016 rhwng Cymru a Lloegr 16.06.16
Bu cyffro mawr yn yr ysgol bnawn Iau y 16eg pan fu'r disgyblion yn gwylio'r gêm bêl-droed yng nghystadleuaeth Ewro 2016 rhwng Cymru a Lloegr. Roedd pawb yn nerfus ond yn gyffrous. Yn anffodus bu siom ar y diwedd wrth i Loegr sgorio yn y munud ychwaenegol olaf i fynd i hi i Cymru 1-2 Lloegr. - cliciwch yma


plant
Coleg Glynllifon 09.06.16
Bu Dosbarth Clogwyn yn ymweld a Coleg Glynllifon fel rhan o'u gwaith Thema sef Anifeiliaid. Cawsant amser gwych yn cyfarfod anifeiliaid amrywiol ac yn dysgu amdanynt. - cliciwch yma


plant
Y Gweilch 29.04.16
Dyma ddosbarth Clogwyn yn mwynhau ei ymeliad i afon Glaslyn i weld y Gweilch. Cawsom sgwrs ddifyr iawn gyda Griff ai ffrindiau a llawer iawn o wybodaeth am y Gweilch - cliciwch yma


plant
SeaQuarium 22.04.16
Aeth dosbarth Clogwyn ir SeaQuarium i Rhyl heddiw fel rhan o'r themau tymor yma, Pethau Byw. Cafodd pawb ddiwrnod da iawn - cliciwch yma


plant
Cerdd Byw Nawr 20.04.16
Dyma ddisgyblion Ysgol Hafod Lon yn mwynhau cyngerdd Cerdd Byw Nawr gan y gitarydd John Nicholas - cliciwch yma


plant
Trip Dosbarth Clogwyn i Gastell Penrhyn 07.03.16
Aeth Dosbarth Clogwyn ar drip i Castell Penrhyn heddiw. Roedd yn ddiddorol iawn gweld sut oedd pobl cyfoethog yn byw ers talwm - cliciwch yma


plant
Diwrnod y llyfr 03.03.16
Cawsom ddiwrnod gwych ar ddiwrnod y llyfr eleni (3:3:16) gyda pawb yn gwisgo i fyny fel ei hoff gymeriad o lyfr.Gofynnodd aelodau o'r Cyngor i 5 disgybl ddarllen stori o'i dewis i'r dosbarthiadau - cliciwch yma


plant
Dydd Gŵyl Dewi 01.03.16
Dyma ddisgyblion Hafod Lon yn dathlu diwrnod gwyl Ddewi. Roedd pawb wedi gwneud ymdrech dda iawn i wisgo coch heddiw. - cliciwch yma


plant
Wythnos blasu yng Ngholeg Dolgellau - Ionawr '16
Dyma ddosbarthiadau Hafod a Dolwar yn mwynhau wythnos blasu yng Ngholeg Dolgellau. Roeddent yn brysur yn coginio, gwneud gwaith celf a gweithio gyda phren, adeiladu, a garddio. Wythnos llawn hwyl! - cliciwch yma


plant
Gweithdy celf Seren 29.01.16
Cafodd dosbarth Clogwyn groeso mawr yn weithdy celf, Seren ym Mlaenau Ffestiniog.Cawsom wneud tylluanod lliwgar i fynd adref.Aethom am ginio i westy Seren yn Llan Festiniog lle gawsom groeso unwaith eto a bwyd blasus iawn. - cliciwch yma


plant
Cinio Nadolig 18.12.15
Disgyblion Ysgol Hafod Lon yn mwynhau eu cinio nadolig! - cliciwch yma


plant
Piano Newydd
Yn ddiweddar fe dderbyniom rodd caredig iawn gan Peter a Lesley Evans sef piano drydan newydd sbon. Rydym yn edrych ymlaen yn arw iw defnyddio yn y cyngerdd Nadolig y flwyddyn hon. Diolch yn fawr iawn, bydd hon yn cael lle priodol yn yr ysgol newydd! - cliciwch yma


plant
Elusen T4U
Mae disgyblion Hafod Lon wedi bod yn casglu bocsus i elusen T4U. Daeth disgyblion o ysgol Botwnnog yma i'w casglu gyda Kim Williams. - cliciwch yma


plant
Plant Mewn Angen
Dyma rai o'r disgyblion yn dathlu Diwrnod Plant Mewn Angen drwy gyfrannu arian i gael gwisgo dillad eu hunain neu fel Pudsey. Da iawn chi - cliciwch yma


plant
Trip Uned y Traeth i Bermo
Dyma luniau dosbarth Uned y Traeth ar ein trip i Bermo ar y tren ac yna ymweld â gorsaf bad achub Bermo - cliciwch yma


plant
Wibdaith i Pen Cob, Pwllheli
Dyma Ddosbarth yr Hafod ar wibdaith i Pen Cob, Pwllheli. Aeth yr holl ddosbarth yno i fwynhau bryd o fwyd blasus. Fe wnaeth y disgyblion archebu’r bwyd eu hunain a chafwyd pawb amser hwylus! - cliciwch yma


plant
Ymweliad Phil o Arriva Wales
Dyma luniau dosbarth Uned y Traeth efo Phil o Arriva Wales a ddaeth I rannu gwybodaeth am ddiogelwch teithio ar y trenau ac ar y rheilffyrdd. - cliciwch yma


plant
Rhodd gan Eglwys Llanaelhaearn
Mae Eglwys Llanaelhaearn wedi rhoi ffrwythau i ni fel rhodd ar adeg Diolchgarwch. Dyma rai o aelodau dosbarth y Felin yn ddiolchgar am eu cael - cliciwch yma


plant
Casglu Bwyd i'r Ffoaduriaid
Dyma rai o'r disgyblion fu'n helpu i gasglu bwyd ar gyfer y ffoaduriaid yn Calais yn ddiweddar. Casglwyd bron i 300 o eitemau, sydd i gyd erbyn hyn wedi eu dosbarthu i'r ffoaduriaid gan y Crynwyr. Diolch yn fawr iawn i bawb wnaeth helpu drwy ddod ac eitemau i mewn i'r ysgol au pacio i mewn i fagiau pwrpasol - cliciwch yma


Ymweliad i'r safle Ysgol Newydd
Bore Coffi Macmillan
Dyma ddosbarth Hafod yn gwerthu cacennau yn ystod fore coffi Macmillan (18/9/15). Yn ogystal â gwerthu’r cacennau, bu’r disgyblion yn brysur yn coginio’r cacennau. Bu raffl a chystadlaethau hwylus yn rhan o’r fore hefyd. Gyda’u gwaith called, casglwyd £300 ar gyfer elusen Macmillan - cliciwch yma


Ymweliad i'r safle Ysgol Newydd
Happy Faces yn achub y dydd!
Dros y blynyddoedd mae'r gymuned a ffrindiau i'r ysgol wedi bod yn gweithio gyda'u gilydd i godi arian ar gyfer prynu bws mini newydd i'r ysgol. Trefnodd Arwel Owen, Edwin Hughes a John Hughes ras dractors er mwyn codi arian, a bu nifer o roddion gan y gymuned leol. Pan glywodd Happy Faces am y gronfa bws mini, aethant ati i godi arian gyda Asda drwy drefnu sêl cist car, raffl fawr a chyngherddau. Bore 'ma yr ydym wedi derbyn y bws mini newydd sbon. Dyma lun o'r cyngor ysgol ynghyd â chynrychiolwyr o'r elusen Happy Faces, Arwel Owen a John Hughes, cadeirydd Llywodraethwyr Hafod Lon Sian Hughes â'r pennaeth Mrs Donna Rees Roberts - cliciwch yma


Ymweliad i'r safle Ysgol Newydd
Dyma luniau diweddar o ddatblygiadau yr ysgol newydd.
Gwelwch eu bod yn gorffen llenwi y sylfaen ac wedi dechrau castio to y prif adeilad. Mae'r gwaith adeiladu yn datblygu yn dda ac yn unol ar amserlen. Cadwch lygaid allan am wahoddiad i ddiwrnod agored yn fuan. I weld mwy o luniau - cliciwch yma


Ymweliad i'r safle Ysgol Newydd
Ymweld â Safle’r Ysgol Newydd
Bu'r Cyngor Ysgol yn ymweld â safle ysgol newydd yn cael ei hadeiladu. Yn dilyn hyn mae dosbarth Clogwyn wedi bod yn ymweld â'r safle i weld sut mae'n datblygu. I weld mwy o luniau - cliciwch yma

Dathlu Llwyddo'n Lleol
Dathlu Llwyddo'n Lleol
Mae Dosbarth yr Hafod wedi bod yn cyd-weithio gyda Llwyddo'n Lleol i dderbyn grantiau sydd yn galluogi iddynt redeg busnes - Cardiau Llon a chreu cacennau. Bu disgyblion y dosbarth yn Venue Cymru gyda'u cynnyrch i'w arddangos a'u gwerthu. I weld mwy o luniau - cliciwch yma

 

 

 

 

 

disgyblion
Dosbarth Yr Wyddfa Ar Brofiad Gwaith 06.10.17
Mae Dosbarth Yr Wyddfa yn brysur ar Ddydd Mawrth yn mynd i brofiad gwaith yn Seren, Blaenau Ffestiniog. Dyma'r criw sydd yn y gweithdy crefft yn paratoi at y Nadolig. Yn y lluniau mae'nt yn gwneud cardiau cyfarch - cliciwch yma



disgyblion
Ffilmio Dyn Bach y Byd Mawr 06.10.17
Fe fwynhaodd Sion feicio efo Deian o amgylch yr iard pan ddaeth 'Dyn Bach Y Byd Mawr' i ffilmio i'r ysgol - cliciwch yma



disgyblion
Gelli Gyffwrdd 10.07.17
Bu dosbarth Cnicht ar drip diwedd tymor yn Gelli Gyffwrdd. Cawsom dywydd arbennig a phawb wedi mwynhau. - cliciwch yma



disgyblion
Diwrnod y Llyfr 02.03.17
Disgyblion yr ysgol yn dathlu diwrnod y llyfr 02.03.17 - cliciwch yma



disgyblion
Dydd Gwyl Dewi 01.03.17
Y disgyblion yn mwynhau cinio blasus ar ddydd gwyl Dewi. 01.03.17 - cliciwch yma



disgyblion
Cyflwyno Siec i'r Ambiwlans Awyr 03.02.17
Aeth dosbarth Y Lliwedd i gyflwyno siec o £215 ir Ambiwlans Awyr yn Ninas Dinlle yng Nghaernarfon - cliciwch yma



disgyblion
Pacio Bagiau yn Tesco 28.01.17
Aeth Dosbarth y Lliwedd I bacio bagiau yn Tesco Porthmadog I godi arian ir Ambiwlans Awyr a Thim Achub Mynydd Aberglaslyn. Caglwyd £430 - cliciwch yma



disgyblion
Tim Achub Mynydd 27.01.17
Daeth Tim Achub Mynydd Aberglaslyn i sgwrsio am ei gwaith gyda Dosbarth y Lliwedd - cliciwch yma



disgyblion
Castell Harlech 27.09.16
Ymweliad Dosbarth y Rhos a chastell Harlech i weld y ddraig. Pawb wedi mwynhau! - cliciwch yma



disgyblion
Cyfeiriannu yng Nglynllifon 13.07.16
Bu nifer fawr o'r disgyblion yn cyfeiriannu yng Nglynllifon. Roedd tri tim - tim Coch, tim Gwyn a tim Gwyrdd. Bu pawb yn cyd-weithio yn dda yn eu timau, drwy ddilyn y map a chwilio am y llythrennau wrth y rhifau penodol. Ar ôl i bawb grwydro o gwmpas y goedwig, y tim Gwyrdd ddaeth i'r brig. Llongyfarchiadau mawr! - cliciwch yma



Ymweliad i'r safle Ysgol Newydd
Trip Diwedd y Flwyddyn Dosbarth y Rhos 12.07.16
Disgyblion dosbarth y Rhos yn mwynhau eu hunain ar drip i Pili Palas. - cliciwch yma



Ymweliad i'r safle Ysgol Newydd
Dosbarth y Felin yn ymweld â Gelli Gyffwrdd
Trip diwedd tymor Felin i Gelli Gyffwrdd - i'r tudalennau disyblion ac albwm Stori - Bu dosbarth y Felin yn ymweld â Gelli Gyffwrdd fel trip diwedd blwyddyn. Cafwyd lot fawr o hwyl gan bawb - yn enwedig ar y 'rollercoaster' â'r llithren ddwr. I weld mwy o luniau - cliciwch yma



Ymweliad i'r safle Ysgol Newydd
Dosbarth y Felin yn ymweld â Fferm Glynllifon
Bu dosbarth y Felin yn ymweld â Fferm Glynllifon i gael gweld yr holl anifeiliaid sydd ganddynt yno, gan ein bod wedi yn siarad bethau byw yn y thema. Bu'r disgyblion yn rhoi bwyd i'r anifeiliaid yno. I weld mwy o luniau - cliciwch yma



Ymweliad i'r safle Ysgol Newydd
Dosbarth y Felin yn ymweld â'r ysgol newydd
Bu dosbarth y Felin yn ymweld â'r ysgol newydd, a chael gweld y datblygiadau mawr sydd wedi digwydd ers i ni fod tro diwethaf. I weld mwy o luniau - cliciwch yma



plant
Sesiwn Touch Trust Hefo Diwylliant Tseina
Yn y sesiwn 'touch trust' fore Gwener, cawsom ymwelwyr o Tseina atom i chwarae gwahanol offerynnau, yn ogystal â dawnsio a chanu. Bu i'r disgyblion fwynhau yn fawr. - cliciwch yma


plant
Sioe Sali Mali 14.06.16
Disgyblion dosbarth y Rhos wrth eu boddau yn gweld sioe Sali Mali yn Neuadd Dwyfor Pwllheli. 14.06.16 - cliciwch yma


plant
Chwilio am Drychfilod 11.05.16
Disgyblion dosbarth y Rhos yn chwilio am wahanol drychfilod ac edrych arnynt drwy'r meicroscop fel rhan o'u gwaith themau 11/05/16 - cliciwch yma


plant
Gwaith themau dosbarth y rhos 10.05.16
Disgyblion dosbarth y rhos wrth eu bodd yn chwarae gyda creaduriaid bach fel rhan o'u gwaith themau 10.05.16 - cliciwch yma


plant
Sport Relief 18.03.16
Cawsom hwyl a sbri yn yr ysgol heddiw ar ddiwrnod Sport Relief.Roedd rhai wedi gwisgo i fyny yn wirion a cawsom daith gerdded o amgylch y cae chwarae am hanner awr.Fuodd rhai aelodau y Cyngor yn brysur iawn yn gwerthu bathodynnau a bandiau garddwrn a rhoi diod a orennau blasus i pawb wnaeth gerdded.Da iawn pawb am gymeryd rhan. - cliciwch yma


plant
Jambori 11.03.16
Disgyblion Dosbarth y Rhos a Dosbarth y Felin yn mwynhau eu hunain yn y Jambori - cliciwch yma


plant
Dydd Gŵyl Dewi 01.03.16
Disgyblion yr ysgol yn gwisgo coch ar ddiwrnod Gŵyl Dewi - cliciwch yma


plant
Blwyddyn Newydd Tseiniaidd - Dosbarth Clogwyn. 11.02.16
Dyma dosbarth Clogwyn yn mwynhau wrth ddathlu y Flwyddyn Newydd Tsieineaidd.Rydym wedi gwneud gwahanol weithgareddau drwyr wythnos a wedi mwynhau - cliciwch yma


plant
Blwyddyn Newydd Tseiniaidd - Dosbarth y Rhos. 10.02.16
Disgyblion Dosbarth y Rhos yn cael gwers ar y flwyddyn newydd Tseiniaidd, ac yn mwynhau eu hunain yn dawnsio gyda'r mygydau dreigiau - cliciwch yma


plant
Gwers Goginio Dosbarth y Rhos 20.01.16
Disgyblion dosbarth y Rhos yn brysur yn gwneud bisgedi moch bach fel rhan o'u gwaith themau - cliciwch yma


plant
Yr Ysgol Newydd 22.01.16
Dyma ddisgyblion dosbarth Clogwyn yn ymweld a safle yr ysgol newydd. Mae'r adeilad wedi altro ac yn dod yn ei flaen yn dda iawn - cliciwch yma


plant
Y Goedlen 21.12.15
Dosbarth y Rhos yn mynd am ginio i westy'r Goedlen yn Edern, a chael hwyl yn y lle chwarae! - cliciwch yma


plant
Panto Martyn Geraint
Bu disgyblion y Felin a Rhos yn Neuadd Dwyfor, Pwllheli yn gweld panto gan Martyn Geraint. Cafodd pawb lot o hwyl yn canu a dawnsio - cliciwch yma


plant
Panto Snow White
Bu dosbarth y Felin a Clogwyn yn Venue Cymru, Llandudno yn gweld panto Snow White. Fe wnaeth y plant fwynhau yn fawr drwy ymuno yn canu a dawnsio - cliciwch yma


plant
PC Owen yn ymweld â dosbarth Felin
Bu PC Owen yn siarad hefo dosbarth Felin ynglyn â sut i fod yn ddiogel ar y wê. Cawsom wylio cartwnau er mwyn gweld y peryglon - cliciwch yma


plant
Pc Owen yn ymweld â dosbarth Clogwyn
Daeth Pc Owen in gweld i sgwrsio am ddiogelwch ar y we - cliciwch yma


plant
Dosbarth Clogwyn yn ymweld â Tyddyn Sachau
Disgyblion dosbarth Clogwyn yn ymweld ar addurniadau yn Tyddyn Sachau 4/12/15 - cliciwch yma


plant
Plant Mewn Angen
Dyma rai o blant dosbarth y rhos wedi gwisgo dillad eu hunain i godi arian at plant mewn angen 13/11/15 - cliciwch yma


plant
Cyflwyniad Iechyd a Diogelwch
Mae cwmni Wynne Construction wrthi yn brysur ar hyn o bryd yn adeiladu'r Ysgol Hafod Lon newydd. Bore 'ma, bu cynrychiolwyr o'r cwmni yn yr ysgol i roi cyflwyniad i bawb am iechyd a diogelwch ar safle adeiladau, a cawsom weld Ivor Goodsite - cliciwch yma


plant
Trip Uned y Traeth i Bermo
Dyma luniau dosbarth Uned y Traeth ar ein trip i Bermo ar y tren ac yna ymweld â gorsaf bad achub Bermo - cliciwch yma


plant
Ymweliad Phil o Arriva Wales
Dyma luniau dosbarth Uned y Traeth efo Phil o Arriva Wales a ddaeth I rannu gwybodaeth am ddiogelwch teithio ar y trenau ac ar y rheilffyrdd. - cliciwch yma


Celf Dosbarth Dolwar
Felin a Clogwyn - Ambiwlans Awyr ac Amgueddfa
Bu dosbarth Clogwyn a Felin yn ymweld â Ambiwlans Awyr Dinas Dinlle, i gael gweld beth yw gwaith yr ambiwlans awyr, a sut maen't yn codi arian. Yna cawsant fyd i'r Amgueddfa Hedfan i gael hanes y Maes Awyr a gweld gwahanol offer ac awyrennau gwahanol dros amser - cliciwch yma

Celf Dosbarth Dolwar
Tren Bach Llanberis 23.09.15
Trip Dosbarth y Rhos i Llanberis i fynd ar y tren bach ar y 23ain o Fedi, fel rhan o'i gwaith themau sef teithio - cliciwch yma

Celf Dosbarth Dolwar
Dosbarthiadau Felin a Clogwyn yn ymweld â Eglwys Santes Catherine
Bu dosbarthiadau Felin a Clogwyn yn ymweld â'r Tad Dylan yn Eglwys Santes Catherine yng Nghriccieth er mwyn gweld beth sydd mewn Eglwys a beth sydd yn digwydd yno. Cafodd y disgyblion weld tu mewn i'r eglwys a chlywed y Tad Dylan yn egluro am y gwahanol wasanaethau â'r pethau gwahanol sydd yn cael eu defnyddio ar eu cyfer - cliciwch yma

Celf Dosbarth Dolwar
Pêl-Droed
Dyma dim pêl-droed yr ysgol yn chwarae mewn twrnament yng Nghlwb Peldroed Llandudno - cliciwch yma

Celf Dosbarth Dolwar
Gwyddoniaeth Dosbarth Clogwyn
Dyma Dosbarth Clogwyn yn creu cwch allan o ffoil aliminiwm, cafwyd cystadleuaeth i weld pa gwch oedd yn arnofio hiraf ac yn dal mwyaf o bwysau - cliciwch yma

Celf Dosbarth Dolwar
Ymweliad a Safle Ysgol Newydd
Dyma dosbarth clogwyn yn ymweld a safle'r ysgol newydd 25:9:15,daeth Alison Hourihane in cyfarfod a ein tywys o amgylch y safle - cliciwch yma

Celf Dosbarth Dolwar
Gwyddoniaeth Dosbarth y Felin
Dyma dosbarth y Felin mewn sesiwn Gwyddoniaeth yn edrych ar sut mae defnyddiau gwahanol yn effeithio ar bellter y mae'r car yn ei deithio, wedi iddo gael ei ollwng o dop y llethr - cliciwch yma

Celf Dosbarth Dolwar
Trip Tren Dosbarth y Felin
Bu Dosbarth Y Felin yn ymweld â thren Ucheldir Cymru ym Mhorthmadog gan mae teithio yw'r thema y tymor yma. Bu'r dosbarth ar y tren i'r amgueddfa a chael cyfle i fynd ar y dren bach cyn teithio yn ol i'r stesion - cliciwch yma

Celf Dosbarth Dolwar
Dosbarth Clogwyn yn ymweld â Bad Achub Criccieth
Bu dosbarth Clogwyn yn ymweld a Bad Achub Cricieth. Cawsom hanes y Bad Achub gan Mr Peter Williams - cliciwch yma

Celf Dosbarth Dolwar
Dosbarth Clogwyn yn ymweld â Rheilffordd Ucheldir
Dyma ddosbarth Clogwyn yn ymweld â Rheilffordd ucheldir ym Mhorthmadog.Aethom o amgylch yr amgueddfa i weld y gwahanol drennau yn yr hen amser - cliciwch yma

Celf Dosbarth Dolwar
Dosbarth y Felin yn ymweld â Ysbyty Chwarel Llanberis
Bu dosbarth y Felin yn ymweld â Ysbyty Chwarel Llanberis ar ddydd Mercher Mehefin 24 i gael gweld be oedd yn digywdd mewn ysbytai yn yr hen amser a'r math o ofal oedd pobl yn eu gael. Cawsom bicnic ar y fainc tu allan ac yna ymlaen i McDonalds i gael pwdin. Cawsom hefyd fynd i barc Coed Helen yn y prynhawn. I weld mwy o luniau - cliciwch yma

Fferm i'r Fforc
Fferm i'r Fforc
Bu aelodau o ddosbarth y Rhos, Felin a Clogwyn yn Tesco Porthmadog ddechrau mis Mai ar gyfer sesiynau Fferm i'r Fforc. Cawsant flasu gwahanol fwydydd a chael gweld o le mae'n bwyd yn dod.

Lluniau Sesiynau Fferm i'r Fforc
- 07.05.2015 - cliciwch yma
- 06.05.2015 - cliciwch yma
- 05.05.2015 - cliciwch yma

Celf Dosbarth Dolwar
Celf Dosbarth Dolwar
Dyma luniau o waith celf y dosbarth yn ystod tymor y Gwanwyn 2015 - cliciwch yma

Prosiect Ty Gobaith
Prosiect Tŷ Gobaith
Mae Dosbarth Clogwyn wedi bod yn casglu caeadau poteli ar gyfer yr elusen Tŷ Gobaith. Maent wedi casglu nifer fawr ohonynt a phob caead yn rhoi 1c i'r elusen. Da iawn chi. I weld mwy o luniau - cliciwch yma

Taith Glynllifon Dosbarth y Rhos
Taith Glynllifon Dosbarth y Rhos
Bu Dosbarth y Rhos yn ymweld â pharc Glynllifon. Cafwyd lot fawr o hwyl yn yr awyr agored. I weld mwy o luniau - cliciwch yma

Diwrnod y Llyfr 5-3-15
Diwrnod y Llyfr 5-3-15
Ar Diwrnod y Llyfr roedd nifer o gymeriadau newydd yn yr ysgol. Cafodd y disgyblion wisgo fel eu hoff gymeriad o lyfr. Yn ystod y diwrnod cafodd y disgyblion wrando ar storïau gwahanol. I weld mwy o luniau - cliciwch yma

Gwaith Celf Yr Urdd
Gwaith Celf Yr Urdd
Bu aelodau'r Urdd yn brysur yn creu gwaith Celf ar gyfer yr Eisteddfod. Dyma luniau o holl waith Celf yr ysgol. I weld mwy o luniau - cliciwch yma

Peintio Gyda Dail
Peintio Gyda Dail
Bu disgyblion dosbarth y Rhos yn casglu dail, ac yna yn eu defnyddio i beintio. I weld mwy o luniau - cliciwch yma

Diwrnod Trwyn Coch
Diwrnod Trwyn Coch
Ar ddiwrnod Trwyn Coch cafodd y disgyblion ddod i'r ysgol yn nillad eu hunain a chael prynu trwyn coch neu fand braich. I weld mwy o luniau - cliciwch yma

 

plant
Perfformiad Trefi Taclus 17/11/17
Perfformiad Trefi Taclus gan Y Brodyr Gregory. Cafwyd lot fawr o hwyl yn gwylio a chymryd rhan yn y perfformiad ac yr oedd y disgyblion i gyd wedi mwynhau. Cafwyd cynrychiolaeth o'r adran Trefi Taclus yng Nghyngor Gwynedd â'r cynghorydd lleol Mr Selwyn Griffiths. - cliciwch yma



disgyblion
Mabolgampau 10.07.17
Diwrnod y Mabolgampau! Tywydd arbennig, pawb wedi ceisio eu gorau glas a phawb wedi mwynhau! Llongyfarchiadau i bawb! - cliciwch yma



Cardiau Llon
Cardiau Llon
Os hoffech archebu cerdyn cysylltwch gyda'r ysgol. Diolch. I weld mwy o luniau - cliciwch yma